Skip to content
Newyddion preswylwyr 

Ardal allanol newydd ar gyfer hyb cymunedol

Mae gan ymwelwyr â hyb bwyd a phantri yn Sir y Fflint le newydd y tu allan i ddal i fyny dros baned o goffi. 

Mae ein contractwyr sy’n adeiladu cartrefi newydd i ni yn Sir y Fflint wedi bod yn helpu’r gymuned o gwmpas y datblygiad. 

Darparodd Grŵp Castlemead fyrddau picnic newydd yn Hyb Sandycroft, sy’n cael ei redeg o hen adeilad y sgowtiaid yn Stryd Watkin, Sandycroft.  Maent hefyd yn rhoi bwyd i’r ganolfan. 

Rydym yn gweithio gyda Grŵp Castlemead i adeiladu wyth o gartrefi newydd ar hen safle  New Inn yn Ffordd yr Orsaf,  Sandycroft.  Disgwylir i’r datblygiad gael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni. 

Sefydlwyd Hyb a Phantri Sandycroft gan Lesley Povey, preswylydd lleol, i gynnig rhywle i’r gymuned leol brynu bwyd yn rhad, gan bod y dewisiadau i siopa yn y pentref yn gyfyngedig a’r dewisiadau o ran trafnidiaeth gyhoeddus yn brin. 

Bydd ymwelwyr yn talu £3 am unrhyw 15 eitem o’r hyb, sy’n cael 160 cilogram o fwyd yr wythnos gan FairShare a hefyd, rhoddion gan archfarchnadoedd lleol. 

1

Dywedodd Lesley:  “Mae’r hyb wedi tyfu’n aruthrol ers i ni agor ym mis Hydref.  Rydym yn agor tair gwaith yr wythnos ac fel arfer, bydd ciw o bobl yn aros i ddod mewn. 

“Rydym yn llawer mwy na phantri bwyd yn unig.  Mae pobl yn dod yma i gyfarfod a chymdeithasu.  Bydd y byrddau newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr fel lle ychwanegol i bobl ddod i eistedd a sgwrsio y tu allan yn ystod yr haf.” 

1

Dywedodd Gary Cook, Rheolwr Datblygu Rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru: “Rydw i wrth fy modd bod Castlemead wedi gallu cynorthwyo gwaith Hyb a Phantri Sandycroft.  Ein nod yw cynorthwyo’r gymuned leol lle bynnag y byddwn yn adeiladu cartrefi newydd, a mawr obeithiwn y bydd cyfraniadau Castlemead yn helpu’r hyb i barhau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn Sandycroft.” 

  • Mae Hyb a Phantri Sandycroft ar agor bob dydd Llun rhwng 12pm a 2.30pm;  bob dydd Mercher rhwng 11am a 1.30pm a bob dydd Gwener rhwng 9.30am a 12.30pm yn Adeilad y Sgowtiaid, Stryd Watkin, Sandycroft, CH5 2PN. 

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.