Arwyddion cam-drin ariannol a sut i’w hadnabod
Beth yw cam-drin ariannol?
A oes ffrind neu berthynas yn eich gorfodi i gael gafael ar arian neu fenthyciadau?
A oes rhywun yr ydych chi’n eu hadnabod wedi cynnig prynu siopa neu dalu biliau gan ddefnyddio eich arian chi, yna defnyddio’r arian at rywbeth arall?
A oes rhywun wedi cyfnewid sieciau neu bensiynau am arian heb sicrhau eich caniatâd chi?
Gallech fod yn ddioddefwr cam-drin ariannol.
Yn ôl sefydliad Money Helper, mae cam-drin ariannol yn fath o gam-drin domestig sy’n ymwneud â rhywun arall yn rheoli eich gwariant neu’ch mynediad i arian, asedau a chyllid.
Gall cam-drin ariannol fod ar sawl ffurf ac mae’n gallu digwydd i unrhyw un o unrhyw oed.
Gall y sawl sy’n cam-drin fod yn bartneriaid, yn gyn bartneriaid, yn aelodau teuluol neu’n unigolion eraill fel gofalwyr.
Mae ystadegau gan elusen Surviving Economic Abuse (SEA) yn dangos bod 1 o bob 5 menyw yn y DU wedi profi cam-drin economaidd gan bartner presennol neu gyn bartner dros y 12 mis diwethaf.
Beth yw’r arwyddion i gadw golwg amdanynt
Weithiau, gall gymryd amser hir i sylweddoli eich bod yn cael eich cam-drin yn ariannol neu i chi labelu’r hyn sy’n digwydd fel ‘cam-drin’. Mae gan Money Helper restr o bethau sy’n gallu eich helpu i adnabod yr hyn sy’n digwydd.
1 o bob 5 menyw yn y DU wedi profi cam-drin economaidd gan bartner presennol neu gyn bartner dros y 12 mis diwethaf.
Ble y gallwch droi am help a chyngor
Efallai bod ofn arnoch gymryd y camau cyntaf er mwyn dianc rhag cam-drin ariannol, ond nid oes yn rhaid i chi wneud hynny ar eich pen eich hun.
Ffoniwch Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 801 0800 neu trowch at Linell Gymorth Am Ddim Byw Heb Ofn
Trowch at wefan Cymorth i Fenywod Cymru
Mae gan Money Helper fwy o gyngor https://www.moneyhelper.org.uk/en/family-and-care/talk-